Hub Cymru Africa yw prif sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang Cymru. Rydym yn cefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica a thu hwnt.
Darganfod mwyMae cylch 2 Cynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr. Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000 – £25,000 i wneud cyfraniad diriaethol i iechyd, dysgu gydol oes, newid hinsawdd a’r amgylchedd a/neu bywoliaethau cynaliadwy.
Mae Hub Cymru Africa yn darparu ystod amrywiol o gefnogaeth ar gyfer eich lefel o angen. O ddiogelu i lywodraethu, cefnogaeth un-i-un a chyfleoedd ariannu, rydym yma i’ch cefnogi.
Cael cefnogaethEin gweledigaeth yw creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n gweithredu mewn undod â phobl Affrica.
Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid, a chyfrannu at ganlyniadau datblygu byd–eang trwy gefnogi cymuned Cymru ac Affrica.
Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n gweithredu mewn undod â phobl Affrica.