Llywodraeth Cymru - Grantiau Cymru o blaid Affrica

Bydd rowndiau grant Hydref 2018 yn agor ar y dyddiadau canlynol:

  • 18 Hydref - Grantiau Bychain rhwng £500 a £5,000
  • 26 Hydref - Grant Prosiect Amlflwyddyn hyd at £50,000

Bydd Cynllun Grant Cymru o Blaid Affrica gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r cyfle i grwpiau a mudiadau cymunedol ledled Cymru gael at gyllid ar gyfer prosiectau Cymru-Affrica graddfa fach. Mae hyd at £230,000 ar gael y flwyddyn, a bydd o leiaf £50,000 y flwyddyn yn cael ei glustnodi i weithgareddau iechyd. 

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 23 Tachwedd 2018.

Faint o arian sydd ar gael?
Mae £53,865 ar gael yr hydref eleni yn y rownd hon, ar gyfer grantiau bychain rhwng £500 a £5,000. Rhaid i'r ceisiadau hyn gyd-fynd ag un o'r pedair thema. Bydd proses ymgeisio un cam ar gyfer y grant hwn a rhaid cwblhau prosiectau o fewn un flwyddyn galendr.

Pwy a beth y bydd yn ei ariannu?
Bydd y cynllun yn agored i fudiadau gyda phartneriaid arweiniol wedi'u lleoli yng Nghymru. WCVA fydd yn gwirio cymhwysedd prosiectau ac yn eu hasesu. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau cyllido terfynol.

I gael mwy o wybodaeth ac i rhoi cais i fewn Cliciwch yma

.

Cael hyd i grantiau eraill

Yma yn Hub Cymru Africa (HCA), rydym yn gwybod taw'r achos sydd yn achosi'r pwysau mwyaf i gyrff o bob maint a math sy'n gweithio yn y maes Datblygu Rhyngwladol yng Nghymru, yw cael eich ariannu.

Mae Hub Cymru Africa yn cynnig nifer o gyrsiau am ddim ar faterion fel grantiau a chodi arian yn eich cymuned. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.

Am fwy o wybodaeth am gyfleodd ariannu cliciwch isod.